fbpx

Get support to get online this Global Accessibility Awareness Day

Wales’ leading sight loss charity RNIB Cymru is urging people with sight and hearing loss to get support to get online this Global Accessibility Awareness Day (Thursday 19 May).

The worldwide awareness day, now in its fifith year, aims to get people thinking, talking and learning about digital accessibility and users with different needs.

 

RNIB’s “Online Today” project provides digital technology sessions for people with sight and hearing loss. Across Wales Digital Skills Officers are inviting people to try out the latest gadgets, tablets, e-readers, magnification and voice-over software and showing people how to use social media, email or online banking. The project is growing in popularity and supported 207 people in April alone.

 

Chris Hoyle, RNIB Cymru’s Online Today Manager said:

“Technology is a great way to make life easier when you have sight loss and this is why we want to reach as many people as possible at these sessions. We can help improve skills, give information about the benefits of being online and how to stay safe.

“This Global Accessibility Awareness Day we want to get the message so that we can help people with disabilities to get online and use everyday technology. We can help.”

The next Online Today session will be on Monday 23 May at 10.30am to 12pm in Llantwit Major Youth Centre, Station Road.

 

Mae prif elusen colled golwg Cymru, RNIB Cymru, yn annog pobl â cholled golwg a chlyw i gael cymorth i fynd ar-lein ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang eleni (dydd Iau 19 Mai).

 

Dydd Iau fydd pumed flwyddyn y diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang a’r nod yw cael pobl i feddwl, trafod a dysgu am hygyrchedd digidol a defnyddwyr â gwahanol anghenion.

 

Mae prosiect “Ar-lein Heddiw” RNIB Cymru yn darparu sesiynau technoleg ddigidol i bobl â cholled golwg a chlyw. Mae Swyddogion Sgiliau Digidol yn gwahodd pobl ar draws Cymru i roi cynnig ar y teclynnau, llechi, e-ddarllenwyr, offer chwyddo a meddalwedd trosleisio diweddaraf ac yn dangos i bobl sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu sut i fancio ar-lein.

Gyda mwy na 207 o bobl wedi’u cefnogi ym mis Ebrill yn unig, mae poblogrwydd y sesiynau hyn, sy’n cael eu cynnal mewn cymunedau lleol, yn tyfu.

Dywedodd Chris Hoyle, Rheolwr Ar-lein Heddiw RNIB:

“Mae technoleg yn ffordd wych o wneud bywyd yn haws pan rydych wedi colli eich golwg. Dyna pam rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl ddod i’r sesiynau hyn fel y gallwn helpu i wella’u sgiliau, rhoi gwybodaeth iddyn nhw am fanteision bod ar-lein a sut i aros yn ddiogel.

“Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang yn ffordd wych o gyfleu’r neges i gymunedau ynghylch pa mor anodd mae’n gallu bod i bobl ag anableddau fynd ar-lein a defnyddio technoleg bob dydd – ond rydym yma i helpu.”

Caiff sesiwn nesaf Ar-lein Heddiw ei chynnal ddydd Llun 23 Mai rhwng 10.30am a 12pm yng Nghanolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr, Ffordd yr Orsaf.

Spread the love
Team @ AberdareOnline

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *